- Cartref
- Safonau
- Safonau ar gyfer myfyrwyr optegol (yn weithredol o 1 Ionawr 2025)
- 6. Cynnal asesiadau, arholiadau, triniaethau ac atgyfeiriadau priodol o dan oruchwyliaeth
Safonau ar gyfer Myfyrwyr Optegol
6. Cynnal asesiadau, arholiadau, triniaethau ac atgyfeiriadau priodol o dan oruchwyliaeth
Byddwch yn datblygu eich sgiliau clinigol yn ystod eich hyfforddiant, gan ddod yn fwy hyfedr wrth i chi agosáu at ddiwedd eich astudiaethau. Fel rhan o'ch hyfforddiant, byddwch yn cymhwyso'r sgiliau clinigol hyn mewn lleoliad bywyd go iawn o dan gyfarwyddyd eich tiwtor neu'ch goruchwyliwr yn raddol gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros gleifion wrth i'ch sgiliau ddatblygu. Ar y cyd â'ch tiwtor neu oruchwyliwr:
6.1 Cynnal asesiad digonol at ddibenion yr ymgynghoriad optegol, gan gynnwys lle bo angen unrhyw hanes meddygol, teuluol a chymdeithasol perthnasol y claf. Gall hyn gynnwys symptomau cyfredol, credoau personol, ffactorau diwylliannol, neu wendidau.
6.2 Darparu neu drefnu unrhyw archwiliadau, cyngor, ymchwiliadau neu driniaeth bellach ar gyfer eich claf os oes angen. Dylid gwneud hyn o fewn amserlen nad yw'n peryglu diogelwch a gofal cleifion.
6.3 Dim ond pan fydd gennych wybodaeth ddigonol am iechyd y claf y dylech ragnodi offer, cyffuriau neu driniaeth.
6.4 Gwiriwch fod y gofal a’r driniaeth a ddarperir gennych ar gyfer pob claf yn gydnaws ag unrhyw driniaethau eraill y mae’r claf yn eu cael, gan gynnwys (lle bo’n bosibl) meddyginiaethau dros y cownter.
6.5 Darparu gofal a thriniaethau effeithiol i gleifion yn seiliedig ar arfer da cyfredol.
6.6 Dylid darparu neu argymell archwiliadau, triniaethau, cyffuriau neu gyfarpar dim ond os yw'r rhain wedi'u cyfiawnhau'n glinigol ac er lles gorau'r claf. Rhoi gwybodaeth i gleifion am yr holl opsiynau perthnasol sydd ar gael iddynt, gan gynnwys yr opsiwn o beidio â chael unrhyw driniaeth neu ymyriad pellach, mewn ffordd y gallant ei deall.
6.7 Pan fyddwch yn ansicr, ymgynghorwch yn briodol â'ch tiwtor neu oruchwyliwr am gyngor ar asesu, archwilio, trin ac agweddau eraill ar ofal cleifion, gan gofio'r angen am gyfrinachedd cleifion.
6.8 Cymhwyso eich barn broffesiynol wrth ddefnyddio data a gynhyrchir gan dechnolegau digidol i lywio penderfyniadau.