Safonau ar gyfer Myfyrwyr Optegol

3. Cael caniatâd dilys

3.1 Cael caniatâd dilys cyn archwilio claf, darparu triniaeth neu gynnwys cleifion mewn gweithgareddau addysgu ac ymchwil. Er mwyn i ganiatâd fod yn ddilys rhaid iddo gael ei roi:

3.1.1 Yn wirfoddol.

3.1.2 Gan y claf neu rywun a awdurdodwyd i weithredu ar ran y claf.

3.1.3 Gan berson sydd â'r gallu i gydsynio.

3.1.4 Gan berson gwybodus priodol. Yn y cyd-destun hwn, mae hysbysu yn golygu egluro beth rydych am ei wneud a sicrhau bod cleifion yn ymwybodol o unrhyw risgiau ac opsiynau o ran archwilio, trin, cyflenwi offer neu ymchwil y maent yn cymryd rhan ynddynt. Mae hyn yn cynnwys hawl y claf i wrthod triniaeth neu gael hebryngwr neu ddehonglydd yn bresennol.

3.2 Bod yn ymwybodol o'ch rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â chaniatâd, gan gynnwys y gwahaniaethau yn y ddarpariaeth caniatâd ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Pan fyddwch mewn gwlad yn y DU, ac eithrio lle’r ydych fel arfer yn astudio neu’n ymgymryd ag ymarfer dan oruchwyliaeth, byddwch yn ymwybodol o unrhyw wahaniaethau yn y gyfraith caniatâd a defnyddiwch y rhain yn briodol.

3.3 Sicrhau bod caniatâd y claf yn parhau i fod yn ddilys ar bob cam o'r archwiliad neu'r driniaeth ac yn ystod unrhyw ymchwil y mae'n cymryd rhan ynddo.