- Cartref
- Safonau
- Safonau ar gyfer myfyrwyr optegol (yn weithredol o 1 Ionawr 2025)
- 15. Byddwch yn onest ac yn ddibynadwy
Safonau ar gyfer Myfyrwyr Optegol
15. Byddwch yn onest ac yn ddibynadwy
15.1 Gweithredu gyda gonestrwydd ac uniondeb i gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn eich proffesiwn.
15.2 Osgoi neu reoli unrhyw wrthdaro buddiannau a allai effeithio ar eich barn broffesiynol. Os yw'n briodol, datgan buddiant, ymneilltuo o'r gwrthdaro a gwrthod rhoddion a lletygarwch.
15.3 Sicrhau nad yw cymhellion, targedau a ffactorau tebyg yn effeithio ar eich barn broffesiynol. Peidiwch â chaniatáu i fuddiannau ac enillion personol neu fasnachol beryglu gofal cleifion.
15.4 Sicrhewch nad ydych yn gwneud datganiadau ffug neu gamarweiniol wrth ddisgrifio eich gwybodaeth, profiad, arbenigedd ac arbenigeddau unigol, gan gynnwys trwy ddefnyddio teitlau.
15.5 Byddwch yn onest yn eich trafodion ariannol a masnachol a rhowch wybodaeth glir i gleifion am gostau eich gwasanaethau a’ch cynhyrchion proffesiynol cyn iddynt ymrwymo i brynu.
15.6 Peidiwch â gwneud datganiadau camarweiniol, dryslyd neu anghyfreithlon yn eich cyfathrebiadau neu hysbysebion.