GOC yn gwahardd optegydd dosbarthu myfyriwr o Oldham o'r gofrestr

Mae’r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheolydd y DU ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu, wedi penderfynu atal Adeel Iqbal, myfyriwr optegydd dosbarthu yn Oldham, Lloegr, o’i gofrestr am naw mis.

Canfu un o Bwyllgorau Addasrwydd i Ymarfer y GOC fod ei addasrwydd i hyfforddi wedi’i amharu oherwydd camymddwyn. Mae hyn mewn perthynas ag ymddygiad amhroffesiynol ac amhriodol o ran methu â chynnal ffiniau priodol a gwneud i gydweithwyr deimlo'n anghyfforddus.

Mae gan Mr Iqbal tan 5 Rhagfyr 2024 i apelio yn erbyn ei ataliad, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae o dan orchymyn atal dros dro ar unwaith.