- Cartref
- Newyddion
- Newyddion a datganiadau i'r wasg
- GOC yn atal optegydd dosbarthu o Gasnewydd o'r gofrestr
GOC yn atal optegydd dosbarthu o Gasnewydd o'r gofrestr
Mae’r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheoleiddiwr y DU ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu, wedi penderfynu atal Gareth Harris, optegydd dosbarthu yng Nghasnewydd, Cymru, o’i gofrestr am chwe mis.
Canfu un o Bwyllgorau Addasrwydd i Ymarfer y GOC fod ei addasrwydd i ymarfer wedi’i amharu oherwydd ei euogfarn. Mae hyn yn ymwneud â gyrru cerbyd modur ar ôl cymryd cyffur rheoledig.
Mae gan Mr Harris tan 29 Gorffennaf 2024 i apelio yn erbyn ei waharddiad.