GOC yn atal optegydd dosbarthu o Gaerdydd o'r gofrestr

Mae’r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheolydd optometryddion ac optegwyr dosbarthu’r DU, wedi penderfynu atal Bethan John, optegydd dosbarthu sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, Cymru, o’i gofrestr am ddeuddeg mis.

Canfu un o Bwyllgorau Addasrwydd i Ymarfer y GOC fod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu oherwydd camymddwyn ac euogfarn. Mae hyn mewn perthynas â gyrru dan ddylanwad alcohol a methu â datgan yr euogfarn hon i'r GOC. Canfu'r Pwyllgor fod y cam olaf yn anonest.

Mae gan Ms John tan 29 Rhagfyr 2024 i apelio yn erbyn ei hataliad dros dro, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae hi o dan orchymyn atal dros dro ar unwaith.