- Cartref
- Newyddion
- Newyddion a datganiadau i'r wasg
- GOC yn dileu optometrydd o North Shields oddi ar y gofrestr
GOC yn dileu optometrydd o North Shields oddi ar y gofrestr
Mae’r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheolydd y DU ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu, wedi penderfynu dileu Richard Carr, optometrydd sydd wedi’i leoli yn North Shields o’i gofrestr.
Canfu un o Bwyllgorau Addasrwydd i Ymarfer y GOC fod ei addasrwydd i ymarfer wedi’i amharu oherwydd derbyn euogfarn. Cafwyd Mr Carr yn euog o Voyeurism (gosod offer / adeiladu / addasu strwythur) o dan Ddeddf Troseddau Rhyw 2003 ym mis Hydref 2023. Mae hyn mewn perthynas â gosod dyfais recordio mewn toiled menywod yn ei weithle, at ddibenion boddhad rhywiol, arsylwi person arall yn cyflawni gweithred breifat, gan wybod nad oedd y person hwnnw wedi cydsynio i gael ei arsylwi ar gyfer boddhad rhywiol.
Mae gan Mr Carr hyd at 25 Tachwedd 2024 i apelio yn erbyn ei ddileu, ac yn ystod y cyfnod hwnnw caiff ei wahardd o'r gofrestr o dan orchymyn atal dros dro ar unwaith.