- Cartref
- Newyddion
- Newyddion a datganiadau i'r wasg
- GOC yn dileu optometrydd o Fryste oddi ar y gofrestr
GOC yn dileu optometrydd o Fryste oddi ar y gofrestr
Mae’r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheolydd optometryddion ac optegwyr dosbarthu’r DU, wedi penderfynu dileu Matthew Bickerstaffe, optometrydd sydd wedi’i leoli ym Mryste, o’i gofrestr.
Canfu un o Bwyllgorau Addasrwydd i Ymarfer y GOC fod ei addasrwydd i ymarfer wedi’i amharu oherwydd camymddwyn. Mae hyn mewn perthynas ag anfon nifer o negeseuon amhriodol a rhywiol ar-lein.
Mae gan Mr Bickerstaffe tan 12 Awst 2024 i apelio yn erbyn ei ddileu, ac yn ystod y cyfnod hwnnw caiff ei wahardd o'r gofrestr o dan orchymyn atal dros dro ar unwaith.