GOC yn atal optometrydd o Sheffield o'r gofrestr

Mae’r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheolydd y DU ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu, wedi penderfynu atal Umar Masood, optometrydd sydd wedi’i leoli yn Sheffield, o’i gofrestr am bedwar mis.  

Canfu un o Bwyllgorau Addasrwydd i Ymarfer y GOC nam ar ei addasrwydd i ymarfer. Mae hyn yn ymwneud â methu ag archwilio a/neu asesu llygaid cleifion yn briodol a chofnodi canfyddiadau ar gyfer archwiliadau nas cynhaliwyd. 

Mae gan Mr Masood tan 2 Ebrill 2025 i apelio yn erbyn ei waharddiad.