Mae'r GOC yn dileu optegydd dosbarthu o Abertawe oddi ar y gofrestr
Mae'r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheoleiddiwr y DU ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu, wedi penderfynu dileu James Rees, optegydd dosbarthu sydd wedi'i leoli yn Abertawe, oddi ar ei gofrestr.
Canfu Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer y GOC fod ei addasrwydd i ymarfer wedi'i amharu oherwydd euogfarn. Ar 6 Medi 2024, cafwyd y cofrestrydd yn euog yn Uchel Lys Caeredin o bedwar cyhuddiad o dreisio, dau gyhuddiad o stelcio, un cyhuddiad o ymosodiad rhywiol ac un cyhuddiad o ymddygiad camdriniol. Ar 19 Tachwedd 2024, gosododd y Llys ddedfryd gyfan o 12 mlynedd yn cynnwys cyfnod o naw mlynedd yn y carchar gyda chyfnod estyniad o dair blynedd.
Mae gan James Rees tan 31 Mawrth 2026 i apelio yn erbyn ei ddileu, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae o dan orchymyn atal ar unwaith.