04 Chwefror 2026

Mae'r GOC yn dileu optegydd dosbarthu o Plymouth o'r gofrestr

Mae'r GOC wedi penderfynu dileu Samantha Wall, optegydd dosbarthu sydd wedi'i leoli yn Plymouth, oddi ar ei gofrestr. 

Mae'r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheoleiddiwr y DU ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu, wedi penderfynu dileu Samantha Wall, optegydd dosbarthu sydd wedi'i leoli yn Plymouth, oddi ar ei gofrestr. 

Canfu Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer y GOC fod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu oherwydd camymddygiad. Mae hyn mewn perthynas â chymryd arian yn fwriadol, nad oedd ganddi hawl iddo, o’i gweithle a/neu gyflwyno hawliadau arian mân a threuliau dyblyg. Canfu’r Pwyllgor fod y camau hyn yn anonest.

Mae gan Ms Wall tan 25 Chwefror 2026 i apelio yn erbyn ei dileu.  

Pynciau cysylltiedig