Mae'r GOC yn gwahardd optometrydd o Fanceinion rhag cofrestru
Mae'r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheoleiddiwr y DU ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu, wedi penderfynu gwahardd Francisca Gracia Ruiz, optometrydd sydd wedi'i lleoli ym Manceinion, oddi ar ei gofrestr am ddeuddeg mis.
Canfu Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer y GOC fod ei haddasrwydd i ymarfer wedi'i amharu oherwydd camymddygiad. Mae hyn mewn perthynas ag ymgymryd â gwasanaethau Offthalmig y GIG heb fod wedi'i rhestru ar Restr Perfformwyr Offthalmig Lloegr a methu â datgan hanes addasrwydd i ymarfer blaenorol wrth wneud cais i ailymuno â'r rhestr. Canfu'r Pwyllgor fod y camau hyn yn anonest a/neu'n brin o onestrwydd.
Mae gan Ms Gracia Ruiz tan 9 Mawrth 2026 i apelio yn erbyn ei gwaharddiad.