9. Cydweithio â'ch cyfoedion, tiwtoriaid, goruchwylwyr, neu gydweithwyr eraill er budd cleifion

9.1 Gweithio ar y cyd â'ch cyfoedion, tiwtoriaid, goruchwylwyr, cydweithwyr eraill o fewn y proffesiynau optegol, ac ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill er budd gorau eich cleifion, gan sicrhau bod eich cyfathrebu'n glir ac yn effeithiol.

9.2 Sicrhau bod gwybodaeth am gleifion yn cael ei rhannu'n briodol ag eraill, a bod cofnodion clinigol ar gael i bawb sy'n ymwneud â gofal y claf.

9.3 Lle bydd anghytundebau’n codi rhyngoch chi’ch hun, eich tiwtor, cyfoedion neu gydweithwyr eraill, gwnewch yn siŵr nad yw’r rhain yn effeithio ar ofal cleifion a cheisiwch ddatrys y rhain er budd y claf.