8. Sicrhau bod goruchwyliaeth yn cael ei chyflawni'n briodol ac yn cydymffurfio â'r gyfraith
Rhennir y cyfrifoldeb i sicrhau nad yw goruchwyliaeth yn peryglu gofal a diogelwch cleifion rhwng y goruchwyliwr a'r hyfforddai. Wrth gael eich goruchwylio:
8.1 Dim ond rhywun sydd wedi'i gymeradwyo gan eich cyflogwr neu ddarparwr hyfforddiant all eich goruchwylio.
8.2 Gwnewch yn siŵr bod eich goruchwyliwr ar y safle, mewn sefyllfa i oruchwylio'r gwaith rydych chi'n ei wneud ac yn barod i ymyrryd os oes angen er mwyn amddiffyn cleifion.
8.3 Mae eich goruchwyliwr yn cadw cyfrifoldeb clinigol am y claf.
8.4 Cydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol sy'n llywodraethu'r gweithgaredd.