7. Cynnal cofnodion cleifion digonol
7.1 Cynnal cofnodion cleifion clir, darllenadwy a chyfoes sydd ar gael i bawb sy'n ymwneud â gofal y claf.
7.2 O leiaf, cofnodwch y wybodaeth ganlynol:
- 7.2.1 Dyddiad yr ymgynghoriad.
- 7.2.2 Manylion personol eich claf.
- 7.2.3 Y rheswm dros yr ymgynghoriad ac unrhyw gyflwr sy'n cyflwyno.
- 7.2.4 Manylion a chanfyddiadau unrhyw asesiad neu archwiliad a gynhaliwyd.
- 7.2.5 Y driniaeth, yr atgyfeiriad neu’r cyngor a ddarparwyd gennych, gan gynnwys unrhyw gyffuriau neu offer a ragnodir neu gopi o’r llythyr Atgyfeirio.
- 7.2.6 Caniatâd a gafwyd ar gyfer unrhyw archwiliad neu driniaeth.
- 7.2.7 Manylion pawb a oedd yn rhan o'r ymgynghoriad optegol, gan gynnwys enw a llofnod neu adnabyddiaeth arall yr awdur. Mae hyn yn cynnwys manylion eich goruchwyliwr gan gynnwys enw a rhif cofrestru'r GOC.