13. Cynnal cyfrinachedd a pharchu preifatrwydd eich cleifion

13.1 Cadwch yr holl wybodaeth am gleifion yn gyfrinachol yn unol â'r gyfraith, gan gynnwys gwybodaeth sydd wedi'i hysgrifennu â llaw, yn ddigidol, yn weledol, yn sain neu wedi'i chadw yn eich cof.

13.2 Cynnal cyfrinachedd wrth gyfathrebu’n gyhoeddus, gan gynnwys siarad â’r cyfryngau neu ysgrifennu ynddynt, neu wrth ysgrifennu a rhannu delweddau ar-lein, gan gynnwys ar gyfryngau cymdeithasol.

13.3 Cydweithredu ag ymholiadau ac ymchwiliadau ffurfiol a darparu'r holl wybodaeth berthnasol y gofynnir amdani yn unol â'ch rhwymedigaethau i gyfrinachedd cleifion.

13.4 Darparu lefel briodol o breifatrwydd i'ch cleifion yn ystod ymgynghoriad er mwyn sicrhau bod y broses o gasglu gwybodaeth, archwilio a thrin yn parhau'n gyfrinachol. Bydd angen gwahanol lefelau o breifatrwydd ar wahanol gleifion a rhaid ystyried eu dewisiadau.

13.5 Defnyddiwch y wybodaeth am gleifion a gasglwch at y dibenion y rhoddwyd iddi yn unig, neu lle mae'n ofynnol i chi ei rhannu yn ôl y gyfraith, neu er budd y cyhoedd.

13.6 Storiwch a gwarchodwch gofnodion eich cleifion yn ddiogel i atal colled, lladrad a datgeliad amhriodol, yn unol â chyfraith diogelu data fel yr amlinellir ym mholisïau eich darparwr hyfforddiant.

13.7 Gwaredu cofnodion cleifion yn gyfrinachol pan nad oes eu hangen mwyach yn unol â gofynion diogelu data.