Ymchwil ansoddol yn archwilio profiad bywyd optometryddion ac optegwyr dosbarthu yn y DU sy'n wynebu aflonyddu, bwlio, cam-drin neu wahaniaethu yn y gwaith
Mae'r ymchwil, a gynhaliwyd gan Explain Market Research, yn cynnwys 38 o gyfweliadau manwl gydag optometryddion ac optegwyr dosbarthu. Roedd gan bob un ohonynt brofiad o aflonyddu, bwlio, cam-drin neu wahaniaethu yn y gwaith – naill ai fel un mater neu wedi profi problemau lluosog. Fe'i comisiynwyd yn dilyn canfyddiadau arolygon diweddar o gofrestrwyr y GOC sy'n tynnu sylw at y nifer uchel o achosion o fwlio, aflonyddu, cam-drin a gwahaniaethu yn y gweithle optegol.
Prif ganfyddiadau
Datgelodd y cyfweliadau gymhlethdodau camdriniaeth a'i goblygiadau hirdymor posibl:
-
Diwylliant y gweithle: Nododd cyfranogwyr golled mewn boddhad swydd dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd cynnydd yn y llwyth gwaith, pwysau masnachol a deinameg rhyngbroffesiynol.
-
Camdriniaeth yn y gweithle: Trafododd y cyfranogwyr brofiadau o fwlio corfforol, geiriol neu seiberfwlio; gwahaniaethu ar sail rhyw, crefydd, hil neu rywioldeb; aflonyddu yn y gwaith, fel arfer ar ffurf aflonyddu rhywiol; a sylwadau camdriniol ac ymddygiadau ymosodol gan gleifion.
Trafododd y cyfranogwyr hefyd effeithiau profi camdriniaeth yn y gwaith yn ymwneud ag aflonyddu, bwlio, cam-drin neu wahaniaethu. Roedd y rhain yn cynnwys:
-
Effeithiau ar iechyd meddwl (e.e. profi straen, pryder a/neu iselder)
-
Symptomau corfforol (fel pendro, meigryn)
-
Effeithiau ar fywyd personol (megis newid yn eu hunanhyder/hunan-barch)
-
Llai o ymgysylltiad yn eu gwaith a/neu ddatblygiad gyrfa.
Rhwystrau i siarad allan
Nodwyd sawl rhwystr i ddatgelu profiadau negyddol, gan gynnwys:
-
Methu dod o hyd i'r person cywir i godi pryderon wrtho
-
Poeni am effeithiau andwyol adrodd, fel bygwth eu henw da neu eu rhagolygon gyrfa
-
Pryder ynghylch adrodd ymddygiad heb unrhyw dystiolaeth
-
Ffydd isel mewn newid.
Camau gweithredu awgrymedig y cyfranogwyr
Trafododd y cyfranogwyr hefyd ffyrdd yr oeddent yn credu y gellid mynd i'r afael yn effeithiol â bwlio, aflonyddu, cam-drin a gwahaniaethu yn y gweithle, megis:
-
Cynllun o beth i'w wneud os ydyn nhw'n profi'r ymddygiadau hyn
-
Arweinydd sefydledig o fewn y map ffordd hwn i fynd i'r afael â phryderon
-
Cefnogaeth gan gymheiriaid
-
Addysg gydol gyrfa ynghylch sut i adnabod a gweithredu ar gamdriniaeth
-
Arweinyddiaeth gan y GOC i ddarparu cyfathrebu ledled y diwydiant ynghylch disgwyliadau o ran ymddygiad priodol a'r canlyniadau os caiff y disgwyliadau hyn eu torri.