Mae'r GOC wedi cyhoeddi canfyddiadau ei Arolwg Gweithlu a Chanfyddiadau 2025, sy'n anelu at ddysgu mwy am brofiadau gwaith cofrestreion, gan gynnwys barn ar eu boddhad swydd ac amodau gwaith.
Mae'r GOC wedi cyhoeddi ymchwil newydd sy'n archwilio profiadau bywyd cofrestreion sydd wedi profi aflonyddu, bwlio, cam-drin neu wahaniaethu yn y gwaith, a'r effaith y mae hyn yn ei chael arnynt a'u gallu i ddarparu gofal diogel i gleifion.
Ymchwil ansoddol i archwilio profiadau bywyd optometryddion ac optegwyr dosbarthu a oedd wedi profi aflonyddu, bwlio, cam-drin neu wahaniaethu yn y gwaith, ac effaith hyn arnynt hwy a'u cleifion.
Mae'r GOC wedi cyhoeddi ymchwil ar fframwaith sy'n seiliedig ar risg ar gyfer profi golwg, er mwyn deall y risgiau o beidio â chynnal gwahanol gydrannau prawf golwg ar yr un pryd, gan yr un person a/neu yn yr un lle.