- Cartref
- Safonau ac arweiniad
- Safonau ar gyfer busnesau optegol
- 3.4 Staff yn cydweithio ag eraill, lle bo hynny'n briodol
Safonau ar gyfer Busnesau Optegol
3.4 Staff yn cydweithio ag eraill, lle bo hynny'n briodol
Pam fod angen y safon hon?
Efallai y bydd angen atgyfeirio rhai cleifion yn allanol at weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill fel offthalmolegwyr i reoli eu hiechyd. Dylai staff sy’n gweithio mewn busnes optegol ddeall y system atgyfeirio sydd ar gael a bod mewn sefyllfa i gydweithio â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i sicrhau diogelwch cleifion. Dylai fod gan locwm yn benodol fynediad at wybodaeth am brotocolau atgyfeirio lleol. Ni ellir gwneud hyn heb gefnogaeth lawn y busnes. I gyflawni hyn, mae eich busnes:
3.4.1 Yn cefnogi ei staff i wneud atgyfeiriadau ac yn sicrhau eu bod ond yn gwneud atgyfeiriadau pan fo hynny'n briodol ac wedi'i gyfiawnhau'n glinigol.
3.4.2 Hwyluso rhannu gwybodaeth briodol a pherthnasol mewn modd amserol.
3.4.3 Yn cefnogi ei staff i ofyn am ragor o wybodaeth gan y claf, ei ofalwr/gofalwyr neu unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall pan fo angen.
3.4.4 Annog cyfathrebiadau parchus gyda chydweithwyr proffesiynol ac ymatal rhag gwneud sylwadau dilornus am weithwyr proffesiynol neu fusnesau eraill yn gyhoeddus neu'n breifat.
3.4.5 Cefnogi ei staff i gadw cofnodion cleifion sy'n glir, yn ddarllenadwy, yn gyfoes ac yn ddigon manwl i fod yn hygyrch i weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.