2.2 Rydych yn sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau perthnasol
Pam fod angen y safon hon?
Fel rhan o'i gyfrifoldebau i'r GOC, mae gan eich busnes ddyletswydd i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r holl reoliadau sy'n effeithio ar redeg y busnes. Mae methu â chydymffurfio yn rhoi enw da’r busnes a’i allu i barhau i weithredu yn y fantol. Mae gan ymddygiad personol a phroffesiynol cyfarwyddwyr hefyd y potensial i effeithio ar allu’r busnes i barhau i weithredu (er enghraifft, os cyflawnir trosedd). Nid yw’r wybodaeth a restrir isod yn hollgynhwysfawr a gall dyletswyddau statudol neu reoleiddiol eraill fod yn berthnasol yn dibynnu ar strwythur eich busnes neu’r amgylchedd y mae’n gweithredu ynddo. I gyflawni hyn, mae eich busnes:
2.2.1 Dim ond mewn ffyrdd nad ydynt yn gamarweiniol, yn ddryslyd nac yn anghyfreithlon y mae'n hysbysebu.
2.2.2 Yn gweithredu ar unrhyw gyfarwyddyd gan awdurdod statudol sy'n ei gwneud yn ofynnol i fesurau gael eu gweithredu i ddiogelu lles cleifion a staff.
2.2.3 Yn sicrhau bod yr holl ddata yn cael ei gael, ei brosesu, ei storio a'i ddinistrio mewn modd sy'n cydymffurfio â'r gyfraith.
2.2.4 Yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod yr unigolion neu'r sefydliadau hynny yr ydych yn cyfeirio cleifion atynt yn gallu darparu gofal priodol.
2.2.5 Yn hyrwyddo cydraddoldeb, yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn gynhwysol ym mhob ymwneud â staff, cleifion ac eraill ac nid yw'n gwahaniaethu ar sail nodweddion a nodir mewn deddfwriaeth cydraddoldeb berthnasol.
2.2.6 Yn rhoi gwybodaeth glir i staff mewn perthynas â'r holl ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i'w rolau.