3.1 Gall eich staff arfer eu barn broffesiynol

Eich staff

Pam fod angen y safon hon?

Mae’n bwysig bod staff yn gallu arfer eu barn broffesiynol wrth gyflawni eu dyletswyddau i gleifion, a bodloni disgwyliadau eu rheolydd proffesiynol. Mae hyn yn dibynnu ar rymuso staff i ystyried yr hyn sydd orau i gleifion a gwneud hynny gyda'u diddordebau a'u hamgylchiadau mewn cof. Dylent fod mewn sefyllfa i wneud hynny heb fod yn destun dylanwad neu bwysau allanol afresymol. I gyflawni hyn, mae eich busnes:

3.1.1 Yn hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r Safonau Ymarfer ar gyfer Optometryddion ac Optegwyr Dosbarthu, Safonau ar gyfer Myfyrwyr Optegol a Safonau ar gyfer Busnesau Optegol i staff.

3.1.2 Yn cefnogi ei staff i gael yr hyder i wneud penderfyniadau sy'n briodol i'w rôl.

3.1.3 Yn sicrhau nad yw pwysau gweithredol a masnachol yn rhwystro arfer barn broffesiynol yn afresymol.

3.1.4 Yn caniatáu digon o amser i staff, cyn belled ag y bo modd, i ddiwallu anghenion unigol cleifion wrth ddarparu gofal.

3.1.5 Yn annog staff i geisio cyngor ar wneud penderfyniadau anodd os oes angen, ac yn rhoi gwybod iddynt gyda phwy y gallant wneud hyn.

3.1.6 Yn sicrhau bod unrhyw newidiadau i gynhyrchion a ragnodir yn gyfiawn yn glinigol, a bod staff yn gallu defnyddio barn broffesiynol wrth benderfynu a yw newid i'r cynnyrch a ragnodir yn iawn i gleifion unigol.