1.1 Gall cleifion ddisgwyl bod yn ddiogel yn eich gofal
Eich cleifion
Pam fod angen y safon hon?
Mae hybu diogelwch cleifion wrth galon pob gofal iechyd. Dylai claf allu ymddiried yn ei ddarparwr gofal iechyd i flaenoriaethu ei ddiogelwch fel y gall dderbyn y gofal gorau posibl. Agwedd bwysig ar hyn yw na ddylai busnesau optegol atal y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y maent yn eu cyflogi neu'n contractio â nhw rhag bodloni eu safonau proffesiynol eu hunain. I gyflawni hyn, rhaid i'ch busnes:
1.1.1 Deall ei gyfrifoldebau cyfreithiol a phroffesiynol i ddiogelu cleifion rhag cam-drin a sicrhau ei fod ef a'i staff wedi'u paratoi a'u cefnogi i wneud hynny.
1.1.2 Cael proses i staff roi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch diogelu a'u hannog i wneud hynny.
1.1.3 Mynd i’r afael ar unwaith â phryderon ynghylch cydweithwyr, busnesau neu sefydliadau eraill os gallai diogelwch cleifion neu’r cyhoedd fod mewn perygl. Gall y pryderon hyn gael eu nodi gennych chi neu’ch staff.
1.1.4 Uwchgyfeirio neu adrodd pryderon sy'n effeithio ar ddiogelwch cleifion neu'r cyhoedd, lle na all eich busnes fynd i'r afael â nhw, i awdurdod priodol ac annog eraill i wneud yr un peth.
1.1.5 Gwneud staff yn ymwybodol, lle maent wedi codi pryderon nad ydynt wedi'u datrys o fewn y busnes, y gallant eu huwchgyfeirio neu eu hadrodd i awdurdod uwch fel rheoleiddiwr proffesiynol (chwythu'r chwiban) a bod rhai agweddau ar hyn wedi'u diogelu gan y gyfraith.
1.1.6 Sicrhau, wrth gyflwyno ymyriadau technolegol, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial (AI) a dysgu peirianyddol, nad ydynt yn peryglu gofal cleifion, a bod safonau proffesiynol yn parhau i gael eu bodloni.
1.1.7 Ystyried a oes angen gwiriadau cofnodion troseddol ar aelodau ei staff yn dibynnu ar eu rolau penodol a/neu eu hamlygiad i gleifion, yn enwedig plant ac oedolion agored i niwed. Mae'r broses ar gyfer cynnal gwiriadau o'r fath yn amrywio ar draws pedair gwlad y DU.
1.1.8 Byddwch yn barod i gyfyngu ar fasnachu mewn meysydd sy'n peri pryder os byddai parhau i wneud hynny yn effeithio'n andwyol ar ofal cleifion.
1.1.9 Cymryd camau priodol i amddiffyn cleifion, y cyhoedd a'ch gweithwyr, os oes tystiolaeth i ddangos nad yw aelod o staff neu fyfyriwr o bosibl yn addas i ymarfer, hyfforddi neu weithio.
1.1.10 Sicrhau nad yw unrhyw dargedau gweithredol neu fasnachol yn cael effaith andwyol ar ofal cleifion.