2.3 Mae gennych system lywodraethu ar waith
Pam fod angen y safon hon?
Mae llywodraethu clinigol yn ddull systematig o gynnal a gwella ansawdd gofal cleifion o fewn darparwyr gofal iechyd. Rydych chi'n ddarparwr gwasanaeth gofal iechyd ac felly mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod y gofal rydych chi'n ei ddarparu i gleifion o ansawdd da ac yn gwella'n barhaus. I gyflawni hyn, mae eich busnes:
2.3.1 Mae ganddo system, sy'n briodol i'ch ymarfer, sy'n caniatáu i staff adolygu a myfyrio ar eu gwaith a nodi a rhannu arfer da neu lle mae angen gwelliannau.
2.3.2 Yn dysgu o gamgymeriadau a wneir gan eich sefydliad a'ch staff a, lle bo'n bosibl gwneud hynny, yn rhoi mecanweithiau ar waith i atal ailadrodd.
2.3.3 Yn archwilio cofnodion cleifion i nodi themâu a phroblemau ac yn mynd i'r afael ag unrhyw bryderon sy'n codi er mwyn sicrhau cysondeb ac ansawdd gofal cleifion. Dylai'r dull a gymerir fod yn briodol ac yn gymesur â'ch busnes.