3.4 Staff yn cydweithio ag eraill, lle bo hynny'n briodol
Pam fod angen y safon hon?
Efallai y bydd angen atgyfeirio rhai cleifion yn allanol at weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill fel offthalmolegwyr i reoli eu hiechyd. Dylai staff sy’n gweithio mewn busnes optegol ddeall y system atgyfeirio sydd ar gael a bod mewn sefyllfa i gydweithio â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i sicrhau diogelwch cleifion. Dylai fod gan locwm yn benodol fynediad at wybodaeth am brotocolau atgyfeirio lleol. Ni ellir gwneud hyn heb gefnogaeth lawn y busnes. I gyflawni hyn, mae eich busnes:
3.4.1 Yn cefnogi ei staff i wneud atgyfeiriadau ac yn sicrhau mai dim ond pan fo'n briodol ac yn glinigol gyfiawn y maent yn gwneud atgyfeiriadau.
3.4.2 Yn hwyluso rhannu gwybodaeth briodol a pherthnasol mewn modd amserol.
3.4.3 Yn cefnogi ei staff i ofyn am ragor o wybodaeth gan y claf, ei ofalwr(wyr) neu unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall pan fo angen.
3.4.4 Yn annog cyfathrebu parchus â chydweithwyr proffesiynol ac yn ymatal rhag gwneud sylwadau difrïol am weithwyr proffesiynol neu fusnesau eraill yn gyhoeddus neu'n breifat.
3.4.5 Yn cefnogi ei staff i gadw cofnodion cleifion sy'n glir, yn ddarllenadwy, yn gyfoes ac yn ddigon manwl i fod yn hygyrch i weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.