Profi golwg - adroddiad prosiect fframwaith yn seiliedig ar risg
Mae'r ymchwil hon ar fframwaith sy'n seiliedig ar risg ar gyfer profi golwg, er mwyn deall y risgiau o beidio â chynnal gwahanol gydrannau prawf golwg ar yr un pryd, gan yr un person a/neu yn yr un lle.
Cynhaliwyd yr ymchwil fel rhan o'n hymrwymiad o'n galwad am dystiolaeth yn 2022 ar Ddeddf Optegwyr 1989 i ystyried diweddaru ein datganiad yn 2013 ar brofi golwg .
At ei gilydd, daeth yr astudiaeth i'r casgliad y gallai gwahanu cydrannau profi golwg yn ôl person, amser neu leoliad beri rhai risgiau i'r GIG a chleifion. Fodd bynnag, yng nghyd-destun archwiliad llygaid arferol, ystyriwyd bod y tebygolrwydd y byddai'r risgiau hyn yn digwydd yn isel.
Canfu hefyd y gallai teilwra gofal llygaid i unigolion, er enghraifft, drwy ystyried proffiliau risg cleifion yn fwy trylwyr, gynnig manteision sylweddol wrth atal, diagnosio a rheoli cyflyrau llygaid. Argymhellwyd astudiaethau yn y dyfodol i benderfynu a ellid ystyried dull personol yn seiliedig ar asesiad risg cleifion yn werth am arian ac yn gost-effeithiol.