Cynhaliodd y GOC ei drydydd cyfarfod Cyngor o'r flwyddyn ar 16 Medi 2025. Roedd yr agenda'n cynnwys cymeradwyo achos busnes ar gyfer adolygiad thematig i arferion masnachol a diogelwch cleifion, Adroddiad Blynyddol y GOC 2024-25 ac Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) 2024-25.
Bydd Marc Stoner yn ymuno â'r GOC fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, yn dilyn proses recriwtio gystadleuol. Bydd ei benodiad yn dechrau ar 1 Medi 2025.
Cynhaliodd y GOC ei ail gyfarfod Cyngor y flwyddyn ar 25 Mehefin 2025. Roedd yr agenda yn cynnwys trafod a chymeradwyo ymateb y GOC i'w ymgynghoriad rheoleiddio busnes a chymeradwyo canllawiau safonau newydd drafft ar gyfer cofrestreion at ddibenion ymgynghoriad cyhoeddus.
Llongyfarchiadau i'r Aelod o'r Cyngor Cathy Yelf, sydd wedi derbyn MBE (Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig) yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd Ei Fawrhydi y Brenin 2025.
Rydym yn falch o gyflwyno ein Polisi Diogelu Corfforaethol, sy'n amlinellu sut rydym yn ymateb i bryderon ynghylch diogelwch a lles pobl sydd mewn perygl ac yn eu rheoli.
Strategaeth gorfforaethol y GOC ar gyfer 2025-30, sy’n nodi gweledigaeth newydd, gofal llygaid diogel ac effeithiol i bawb, a chenhadaeth newydd i amddiffyn y cyhoedd drwy gynnal safonau uchel mewn gwasanaethau gofal llygaid.
Mae'r GOC wedi cyhoeddi ailbenodiad Frank Munro i'w Gyngor fel aelod cofrestredig am dymor pellach o bedair blynedd. Mae Raymond Curran a Cathy Yelf wedi'u penodi'n aelodau cofrestredig newydd ac aelodau lleyg yn y drefn honno.
Rydym yn chwilio am saith aelod newydd i ymuno â'n Panel Ymgynghorol. Mae'r Panel Ymgynghorol yn cynnwys sawl pwyllgor – rydym yn recriwtio aelodau ar gyfer ein Pwyllgorau Cwmnïau, Addysg a Chofrestru.
Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi ei adolygiad o berfformiad y Cyngor Optegol Cyffredinol yn 2023-2024. Am y drydedd flwyddyn, mae'r GOC wedi bodloni pob un o 18 o Safonau Rheoleiddio Da'r PSA.
Mae'r GOC wedi cyhoeddi ailbenodiad Lisa Gerson i'w Gyngor fel aelod cofrestredig am dymor pellach o bedair blynedd. Mae Ros Levenson a Poonam Sharma wedi'u penodi'n aelodau lleyg a chofrestredig newydd yn y drefn honno.
Bydd 100% Optical yn cael ei gynnal o ddydd Sadwrn 1 i ddydd Llun 3 Mawrth 2025 yng Nghanolfan ExCel Llundain a byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno.