Mae'r Cyngor Optegol Cyffredinol wedi ymuno â naw rheoleiddiwr iechyd a gofal cymdeithasol arall i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar ddatgeliadau chwythu'r chwiban.
Mae'r adroddiad datgeliadau chwythu'r chwiban ar y cyd yn nodi sut mae'r rheoleiddwyr gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ymdrin â datgeliadau, yn tynnu sylw at y camau a gymerwyd ynghylch y materion hyn, ac yn anelu at wella cydweithio ar draws y sector iechyd.
Mae'r GOC wedi cyhoeddi canfyddiadau ei Arolwg Gweithlu a Chanfyddiadau 2025, sy'n anelu at ddysgu mwy am brofiadau gwaith cofrestreion, gan gynnwys barn ar eu boddhad swydd ac amodau gwaith.
Cynhaliodd y GOC ei drydydd cyfarfod Cyngor o'r flwyddyn ar 16 Medi 2025. Roedd yr agenda'n cynnwys cymeradwyo achos busnes ar gyfer adolygiad thematig i arferion masnachol a diogelwch cleifion, Adroddiad Blynyddol y GOC 2024-25 ac Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) 2024-25.
Mae'r GOC wedi cyhoeddi ymchwil newydd sy'n archwilio profiadau bywyd cofrestreion sydd wedi profi aflonyddu, bwlio, cam-drin neu wahaniaethu yn y gwaith, a'r effaith y mae hyn yn ei chael arnynt a'u gallu i ddarparu gofal diogel i gleifion.
Ymchwil ansoddol i archwilio profiadau bywyd optometryddion ac optegwyr dosbarthu a oedd wedi profi aflonyddu, bwlio, cam-drin neu wahaniaethu yn y gwaith, ac effaith hyn arnynt hwy a'u cleifion.
Kate Furniss, Rheolwr Gweithrediadau Addysg a DPP, ar bwysigrwydd cofrestreion yn creu cynllun datblygu personol (CDP) i fapio eu Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) dros gylchred 2025-27.