Mae GOC yn chwilio am naw aelod Pwyllgor newydd

Rydym am benodi naw aelod Pwyllgor newydd ar draws ein pwyllgorau Addysg, Cofrestru a Safonau. Mae tair lle gwag ar agor ar bob pwyllgor: 

  • Pwyllgor Addysg: un optegydd dosbarthu a dau optometrydd 
  • Pwyllgor Cofrestru: dau optegydd dosbarthu ac un optometrydd 
  • Pwyllgor Safonau: un optegydd dosbarthu a dau optometrydd 

Mae’r pwyllgorau hyn yn rhan o’n Panel Cynghori, sy’n gyfrifol am roi cyngor a chymorth i’r Cyngor ar: 

  • materion sy’n ymwneud â busnes cofrestredig ac eithrio materion y mae’n ofynnol yn ôl y Ddeddf Optegwyr eu cyfeirio at y Pwyllgor Ymchwilio, y Pwyllgor Apeliadau Cofrestru neu’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer; 
  • materion yn ymwneud â hyfforddiant, addysg ac asesu optegol; 
  • materion sy'n ymwneud â chofrestru, ac eithrio materion y mae'r Ddeddf Optegwyr yn gofyn iddynt gael eu hystyried gan y Pwyllgor Apeliadau Cofrestru; a 
  • materion sy’n ymwneud â’r safonau ymddygiad a pherfformiad a ddisgwylir gan gofrestreion neu’r rhai sy’n ceisio cael eu cynnwys ar y gofrestr. 

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr a all ddod â phersbectif ffres, a fydd yn gallu dangos sgiliau cyfathrebu effeithiol, a datblygu perthnasoedd gwaith adeiladol a chefnogol. Fel aelod o’r pwyllgor, cewch gyfle i rannu eich sgiliau a’ch profiad penodol tra’n dysgu gan eraill hefyd. Rydym hefyd wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad personol a phroffesiynol yn y rôl.   

Byddem yn croesawu’n arbennig geisiadau gan unigolion sy’n anabl ac o gefndiroedd ethnig amrywiol gan nad oes gan y rhain gynrychiolaeth ddigonol ar ein pwyllgorau ar hyn o bryd. 

Mae'r rôl hon yn rhan-amser gydag ymrwymiad o tua 2-3 diwrnod y flwyddyn, gan gynnwys amser a dreulir yn paratoi ar gyfer cyfarfodydd. Telir ffi dyddiol o £319. Cynhelir cyfarfodydd fel arfer trwy Microsoft Teams ond gellir eu cynnal yn swyddfa'r GOC yn 10 Old Bailey, Llundain EC4M 7NG neu leoliadau addas eraill. 

Gweler y pecyn ymgeiswyr am ragor o wybodaeth am y rôl a sut i wneud cais . Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at apwyntiad@optical.org gan ddyfynnu’r cyfeirnod GOC04/24 neu ffoniwch y tîm Llywodraethu ar 0207 307 3934. 

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Sul 8 Medi 2024.