Mae'r GOC yn dileu optometrydd o Salford o'r gofrestr
Mae'r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheoleiddiwr y DU ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu, wedi penderfynu dileu Muhammad Vali, optometrydd sydd wedi'i leoli yn Salford, Lloegr, oddi ar ei gofrestr.
Canfu Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer y GOC fod ei addasrwydd i ymarfer wedi'i amharu oherwydd camymddwyn. Mae hyn oherwydd prosesu treuliau ffug a phersonol drwy honni eu bod yn dreuliau cyfreithlon sy'n gysylltiedig â busnes.
Mae gan Mr Vali tan 24 Hydref 2025 i apelio yn erbyn ei ddileu, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi'i wahardd o'r gofrestr.