Mae'r GOC yn gwahardd optometrydd o Nottingham o'r gofrestr
Mae'r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheoleiddiwr y DU ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu, wedi penderfynu gwahardd Ravi Bhojwani, optometrydd sydd wedi'i leoli yn Nottingham, oddi ar ei gofrestr am naw mis.
Canfu Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer y GOC fod ei addasrwydd i ymarfer wedi'i amharu oherwydd camymddygiad. Mae hyn mewn perthynas â nifer o fethiannau clinigol, gan gynnwys peidio â gwneud atgyfeiriadau cleifion digonol a pherfformio plygiannau anghywir. Achosodd hyn niwed difrifol i un claf, a risg o niwed difrifol i sawl claf arall.
Mae gan Mr Bhojwani tan 19 Rhagfyr 2025 i apelio yn erbyn ei waharddiad, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi'i wahardd o'r gofrestr o dan orchymyn atal ar unwaith.