Mae'r GOC yn gwahardd optometrydd o Fanceinion rhag cofrestru
Mae'r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheoleiddiwr y DU ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu, wedi penderfynu gwahardd Siddique Chowdhury, optometrydd sydd wedi'i leoli ym Manceinion, oddi ar ei gofrestr am ddau fis.
Canfu Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer y GOC fod ei addasrwydd i ymarfer wedi’i amharu oherwydd camymddwyn. Mae hyn mewn perthynas â methu â chynnal archwiliad priodol a methu â chadw cofnodion digonol, gan gynnwys cofnodi gwybodaeth na chafodd ei thrafod yn anonest a/neu gofnodi ymatebion cleifion yn anghywir.
Mae gan Mr Chowdhury tan 1 Ionawr 2026 i apelio yn erbyn ei waharddiad, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae o dan orchymyn gwaharddiad ar unwaith.