Rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Addysg Optegol y DU 2025 ar gyfer cymwysterau a gymeradwywyd gan y GOC, sy'n darparu dadansoddiad o addysg a hyfforddiant myfyrwyr a hyfforddeion optegol a sylwebaeth ar ddatblygiadau'r sector.
Mae'r Cyngor Optegol Cyffredinol wedi ymuno â naw rheoleiddiwr iechyd a gofal cymdeithasol arall i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar ddatgeliadau chwythu'r chwiban.
Mae'r GOC wedi cyhoeddi canfyddiadau ei Arolwg Gweithlu a Chanfyddiadau 2025, sy'n anelu at ddysgu mwy am brofiadau gwaith cofrestreion, gan gynnwys barn ar eu boddhad swydd ac amodau gwaith.
Cynhaliodd y GOC ei drydydd cyfarfod Cyngor o'r flwyddyn ar 16 Medi 2025. Roedd yr agenda'n cynnwys cymeradwyo achos busnes ar gyfer adolygiad thematig i arferion masnachol a diogelwch cleifion, Adroddiad Blynyddol y GOC 2024-25 ac Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) 2024-25.
Mae'r GOC wedi cyhoeddi ymchwil newydd sy'n archwilio profiadau bywyd cofrestreion sydd wedi profi aflonyddu, bwlio, cam-drin neu wahaniaethu yn y gwaith, a'r effaith y mae hyn yn ei chael arnynt a'u gallu i ddarparu gofal diogel i gleifion.
Mae'r GOC wedi cyhoeddi ymchwil ar fframwaith sy'n seiliedig ar risg ar gyfer profi golwg, er mwyn deall y risgiau o beidio â chynnal gwahanol gydrannau prawf golwg ar yr un pryd, gan yr un person a/neu yn yr un lle.
Bydd Marc Stoner yn ymuno â'r GOC fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, yn dilyn proses recriwtio gystadleuol. Bydd ei benodiad yn dechrau ar 1 Medi 2025.