Mae'r GOC yn gwahardd optometrydd o Fanceinion rhag cofrestru
Mae'r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheoleiddiwr y DU ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu, wedi penderfynu gwahardd Rohail Nawaz, optometrydd sydd wedi'i leoli ym Manceinion, oddi ar ei gofrestr am naw mis.
Canfu Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer y GOC fod ei addasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar sail diogelu’r cyhoedd a budd y cyhoedd. Roedd hyn yn ymwneud â’i fethiant i gynnal cyfrinachedd cleifion drwy beidio â storio a/neu amddiffyn copïau papur o gofnodion cyfrinachol cleifion yn ddiogel, a thrwy beidio â’u gwaredu’n gyfrinachol pan nad oes eu hangen mwyach.
Mae gan Mr Nawaz tan 29 Hydref 2026 i apelio yn erbyn ei waharddiad, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae o dan orchymyn gwaharddiad ar unwaith.