17 Awst 2026

Mae'r GOC yn dileu optometrydd o Nottingham oddi ar y gofrestr 

Mae'r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheoleiddiwr y DU ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu, wedi penderfynu dileu Ravi Bhojwani, optometrydd sydd wedi'i leoli yn Nottingham, oddi ar ei gofrestr.

Canfu Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer y GOC fod ei addasrwydd i ymarfer wedi’i amharu oherwydd camymddwyn. Mae hyn mewn perthynas â methiant dro ar ôl tro i gynnal archwiliadau llygaid llawn a/neu ddigonol ac i wneud atgyfeiriadau cleifion. Gwnaeth y Pwyllgor ei benderfyniad i ddileu Mr Bhojwani mewn adolygiad o’i orchymyn atal 12 mis blaenorol, lle canfu nad oedd Mr Bhojwani wedi gwneud ymdrech i unioni ei gamymddwyn blaenorol.

Bydd dileu Mr Bhojwani yn dechrau ar 19 Medi 2026, ar ôl i'w waharddiad presennol ddod i ben.  

 

Pynciau cysylltiedig