Ymgynghoriad archif 2020-21: Datganiadau COVID-19

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn yn flaenorol ar ein hwb ymgynghori. Rydym wedi ei symud yma fel rhan o archifo.

Gofynasom

Roedd ein hymgynghoriad ar ddatganiadau COVID-19 yn gofyn am farn ynghylch sut y gallem barhau i gefnogi ein cofrestreion a’r sector optegol drwy gydol y pandemig COVID-19 wrth i wahanol rannau o’r DU brofi cyfyngiadau lleol a chenedlaethol o bosibl nawr ac yn y dyfodol.

Yn benodol, gofynnwyd am farn ar:

  • fframwaith arfaethedig ar gyfer pryd y dylai ein datganiadau COVID-19 presennol fod yn berthnasol yn y dyfodol, yn gysylltiedig â system ddosbarthu coch/ambr/gwyrdd Coleg yr Optometryddion ;
  • cynnwys ac effaith ein datganiadau COVID-19 presennol; a
  • a oedd meysydd pellach o reoliadau, deddfwriaeth neu ganllawiau’r GOC yr oedd angen eu newid neu eu rhoi ar waith i sicrhau rheoleiddio mwy effeithiol yn y dyfodol, naill ai yn ystod pandemig neu o ganlyniad i’r pandemig.

Dywedasoch

Daeth ein hymgynghoriad i ben ym mis Ionawr 2021 a chawsom 72 o ymatebion.

Fe wnaethon ni gomisiynu Enventure Research i ddadansoddi'r ymatebion.

Mi wnaethom ni

Cyhoeddwyd ein hymateb i'r ymgynghoriad ar ein gwefan ar 28 Mai 2021.

Penderfynasom alinio ein holl ddatganiadau i system ddosbarthu coch/ambr/gwyrdd Coleg yr Optometryddion .

Adolygwyd ein holl ddatganiadau ar sail adborth o’r ymgynghoriad a diweddarwyd pob un ohonynt, gan nodi’n glir y cam o’r pandemig y maent yn berthnasol ynddo.

Roedd ein hymateb a'r datganiadau COVID-19 diweddaraf ar gael ar ein tudalen we wybodaeth ddiweddaraf COVID-19.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Trosolwg

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar sut y gall y GOC barhau i gefnogi ein cofrestreion a’r sector optegol drwy gydol y pandemig COVID-19 wrth i wahanol rannau o’r DU brofi cyfyngiadau lleol a chenedlaethol o bosibl nawr ac yn y dyfodol.

Yn benodol, hoffem gael eich barn ar:

  • fframwaith arfaethedig ar gyfer pryd y dylai ein datganiadau COVID-19 presennol fod yn berthnasol yn y dyfodol, yn gysylltiedig â system ddosbarthu coch/ambr/gwyrdd Coleg yr Optometryddion ;
  • cynnwys ac effaith ein datganiadau COVID-19 presennol; a
  • a oes meysydd pellach o reoliadau, deddfwriaeth neu ganllawiau’r GOC y mae angen eu newid neu eu rhoi ar waith i sicrhau rheoleiddio mwy effeithiol yn y dyfodol, naill ai yn ystod pandemig neu o ganlyniad i’r pandemig.

Bydd yr holl ddatganiadau cyfredol yn aros yn eu lle tra'n aros am ganlyniad yr ymgynghoriad hwn ac felly mae dyddiadau adolygu wedi'u hymestyn i 31 Ionawr 2021 (ac eithrio'r datganiad darpariaeth CET sydd wedi'i ymestyn i 31 Rhagfyr 2021).

Gweler yr adran 'dogfennau cysylltiedig' ar waelod y dudalen am y ddogfen ymgynghori lawn a'r asesiad effaith.

[Ychwanegwyd paragraff ar 11/12/20] Fel y cyfeiriwyd ato yn y ddogfen ymgynghori, gwnaethom gais am rywfaint o ddeddfwriaeth frys i ategu ein hymateb i bandemig COVID-19. Rydym bellach wedi derbyn cadarnhad gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y bydd offeryn statudol newydd yn dod i rym ar 14 Rhagfyr 2020, a fydd yn diwygio Rheolau Cyfansoddiad Pwyllgorau 2005, Rheolau Cofrestru 2005 a Rheolau Addasrwydd i Ymarfer 2013 y GOC. Mae hwn i'w weld ar dudalen rheolau a rheoliadau ein gwefan o'r enw 'Gorchymyn Cyngor Rheolau'r Cyngor Optegol Cyffredinol (Cyfansoddiad Pwyllgor, Cofrestru ac Addasrwydd i Ymarfer) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020'. Mae rhai cwestiynau yn yr ymgynghoriad yn gofyn am farn ar effaith gweithredu’r ddeddfwriaeth newydd.

Pam mae eich barn yn bwysig

Yn ystod argyfwng COVID-19, sylweddolom y gallai rhai o’n deddfwriaeth a’n rheoliadau fod wedi atal gofal rhag cael ei ddarparu’n effeithiol yn ystod pandemig, yn enwedig gofal o bell, a oedd yn rhan bwysig o gadw cyfraddau heintiau’n isel a lleihau’r risg i gleifion.

Gofynnwyd cwestiynau penodol i ni hefyd ynghylch sut roedd ein safonau a deddfwriaeth yn berthnasol i ymarfer yn ystod yr argyfwng. Er mwyn helpu i gefnogi cofrestreion, cyhoeddwyd cyfres o ddatganiadau gennym gyda’r nod o gael gwared ar rwystrau rheoleiddiol diangen, gan egluro rhai meysydd ymarfer a chryfhau’r canllawiau a roddwn fel arfer ar ein safonau ar gyfer optometryddion, optegwyr dosbarthu, myfyrwyr a busnesau optegol.

Rhai meysydd allweddol a gafodd sylw oedd darparu gofal o bell ac atal a rheoli heintiau. Fe wnaethom hefyd geisio rhoi sicrwydd i’n cofrestreion a’r sector y byddem yn eu cefnogi pan fyddent yn gweithredu gyda chydwybod dda ac yn arfer barn broffesiynol er budd y cyhoedd.

Oherwydd yr angen i roi newid ar waith yn gyflym, dim ond nifer fach o randdeiliaid allweddol yn y sector optegol a chomisiynwyr gofal iechyd yr oeddem yn gallu ymgynghori â nhw cyn ei roi ar waith.

Roedd eu cyfraniadau a’u hadborth yn amhrisiadwy ond rydym yn cydnabod pwysigrwydd ceisio ystod ehangach o safbwyntiau gan ein cofrestreion, cleifion a’r cyhoedd wrth ddatblygu ein prosesau a’n polisïau rheoleiddio, ac rydym nawr yn bwriadu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y datganiadau hyn er mwyn:

  • sicrhau eu bod yn parhau i fod yn effeithiol; a
  • penderfynu sut y dylent fod yn berthnasol mewn gwahanol gyfnodau o’r pandemig presennol neu unrhyw bandemig yn y dyfodol. 

Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn gweld a ddylai rhai o’r datganiadau hyn ddod yn bolisi rheoleiddio mwy cyffredinol, yn annibynnol ar COVID-19, ac mewn rhai achosion a ddylid gwneud newidiadau i’n deddfwriaeth.

O ganlyniad, teimlwn mai nawr yw’r amser iawn i geisio barn ehangach ar:

  • cynnwys ein datganiadau COVID-19;
  • pryd y dylai’r datganiadau fod yn berthnasol yn ystod cyfnodau gwahanol o’r pandemig COVID-19;
  • effaith ac effeithiolrwydd ein datganiadau COVID-19; a
  • effaith sicrhau pwerau cyfreithiol brys i ymdrin yn fwy effeithiol â phandemigau ac argyfyngau tebyg yn y dyfodol.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn para am gyfnod o 12 wythnos.

Cysylltiedig