Ymgynghoriadau
Credwn ei bod hi’n bwysig bod gan y bobl sy’n cael eu heffeithio gan ein gwaith lais yn y ffordd rydym yn gweithredu, gan gynnwys:
- cleifion
- y cyhoedd
- ein cofrestrwyr
- sefydliadau optegol
- sefydliadau gofal iechyd
- cyflogwyr
- rheoleiddwyr eraill
- staff.
Mae ymgynghori effeithiol yn werthfawr i'n helpu i wella ein gwaith ac mae'n rhan allweddol o'n prosesau gwneud penderfyniadau mewnol. Mae'n ein llywio ac yn ein helpu i gyflawni ein cenhadaeth o ddiogelu'r cyhoedd drwy gynnal safonau uchel mewn gwasanaethau gofal llygaid.
Mae ein polisi ymgynghori yn nodi'n fanylach sut rydym yn cynnal ymgynghoriadau.