19 Chwefror 2021

Sut mae'r GOC yn cefnogi mis Hanes LHDT+

I gefnogi mis Hanes LHDT+, rydym wedi bod yn codi ymwybyddiaeth ymhlith ein staff am hanes y gymuned LHDT+

 

I gefnogi mis Hanes LHDT+, rydym wedi bod yn codi ymwybyddiaeth ymhlith ein staff am hanes y gymuned LHDT+ fel bod ganddynt ddealltwriaeth well o anghenion cymorth ein cofrestreion.

Mae digwyddiadau amrywiol wedi'u cynnal trwy gydol y mis i ddathlu'r gymuned LHDT+ a'i hanes. Mae’r rhain yn cynnwys sesiynau galw heibio LGBTea sy’n agored i’r holl staff i drafod pynciau LHDT+ a rhannu profiadau, her pobi enfys, Cwis Hanes LGBT+ lle gall staff brofi eu gwybodaeth, a hyrwyddo effaith LGBT+ ar ddiwylliant fel ein rhestr chwarae o artistiaid sy’n adnabod fel LHDT+.

Yn ogystal, mae cyfres o erthyglau wedi bod ar ein Mewnrwyd a ysgrifennwyd gan aelodau staff sydd â phrofiadau byw o fod yn LHDT+, gan gynnwys pynciau fel y pandemig HIV/AIDS a’i debygrwydd i’r pandemig COVID-19, pwysigrwydd normaleiddio siarad am ragenwau, a hanes trawsryweddol.

Ochr yn ochr â hyn, mae staff wedi cael hyfforddiant newydd ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI), ac rydym yn adolygu’r categorïau data a gasglwn i fod yn fwy cynhwysol i bawb. Rydym hefyd yn adolygu ac yn diweddaru ein polisi a phrosesau ailbennu rhywedd, a fydd yn destun ymgynghoriad eleni.

Fel rhan o’n gwaith EDI parhaus, rydym yn bwriadu cyflwyno cyfres o weminar EDI/trafodaeth o amgylch y bwrdd ar gyfer cofrestreion, gan gynnwys un PRIDE ym mis Mehefin i anrhydeddu mis PRIDE. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rhannu maes o law ac edrychwn ymlaen at ymgysylltu ag unigolion cofrestredig i gael gwell dealltwriaeth o effeithiau EDI ar y sector.

Rydym yn cydnabod mai dim ond camau bach yw'r rhain a bydd cymaint mwy y gallwn ei wneud yn y dyfodol i ymgysylltu a chefnogi amrywiaeth eang ein rhanddeiliaid yn well. Rydym wedi ymrwymo i ddysgu, datblygu a newid yn y maes hwn a byddem yn croesawu unrhyw syniadau a meddyliau gan ein cofrestreion a rhanddeiliaid eraill. Mae croeso i chi gysylltu â ni ar [email protected] .