06 Tachwedd 2026

Mae'r GOC yn dileu optometrydd o Wolverhampton oddi ar y gofrestr

Mae'r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheoleiddiwr y DU ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu, wedi penderfynu dileu Ajaykumar Patel, optometrydd sydd wedi'i leoli yn Wolverhampton, oddi ar ei gofrestr.

Canfu Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer y GOC fod ei addasrwydd i ymarfer wedi'i amharu oherwydd euogfarn. Ym mis Ionawr 2026, cafodd ei euogfarnu yn Llys y Goron Derby o nifer o droseddau rhywiol yn erbyn plant.

Mae gan Ajaykumar Patel tan 30 Tachwedd 2026 i apelio yn erbyn ei ddileu, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae o dan orchymyn atal dros dro ar unwaith. 

 

Pynciau cysylltiedig