28 Ebrill 2026

Mae'r GOC yn gwahardd optometrydd o Fanceinion rhag cofrestru

Mae'r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheoleiddiwr y DU ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu, wedi penderfynu gwahardd Nasir Butt, optometrydd sydd wedi'i leoli ym Manceinion, oddi ar ei gofrestr am chwe mis.

Canfu Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer y GOC fod ei addasrwydd i ymarfer wedi’i amharu oherwydd camymddygiad. Roedd hyn yn ymwneud â chynnal archwiliad llygaid o safon wael, methu â nodi newidiadau fasgwlaidd a chyfeirio’r claf at ei feddyg teulu, a methu â chynnal cofnodion cleifion digonol, gan gynnwys dogfennu hanes claf nad oedd wedi’i ganfod a phrofion nad oedd wedi’u cynnal.

Mae gan Mr Butt tan 17 Mai 2026 i apelio yn erbyn ei waharddiad.

 

Pynciau cysylltiedig