Mae'r GOC yn dileu optometrydd o Wrecsam oddi ar y gofrestr
Mae'r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheoleiddiwr y DU ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu, wedi penderfynu dileu Elizabeth Williams, optometrydd sydd wedi'i lleoli yn Wrecsam, oddi ar ei gofrestr.
Ym mis Mai 2025, canfu Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer y GOC fod addasrwydd Ms Williams i ymarfer wedi'i amharu ar sail budd y cyhoedd a diogelu'r cyhoedd. Cafodd ei gwahardd am 12 mis ar ôl methu â pherfformio a/neu gofnodi archwiliadau a methu â gwneud atgyfeiriadau cleifion digonol.
Mewn adolygiad diweddar, canfu'r Pwyllgor nad oedd Ms Williams wedi dangos unrhyw ymgysylltiad ystyrlon â'r broses reoleiddio, ac nad oedd wedi cyflwyno unrhyw dystiolaeth o fyfyrio, adfer, datblygiad proffesiynol parhaus, na chamau a gymerwyd i fynd i'r afael â'i diffygion clinigol. Felly cyfarwyddodd y Pwyllgor y dylid ei dileu o'r gofrestr.
Mae gan Ms Williams tan 29 Mai 2026 i apelio yn erbyn ei dileu.