Mae'r GOC yn dileu optometrydd o Slough o'r gofrestr
Mae'r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheoleiddiwr y DU ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu, wedi penderfynu dileu Omer Arshad, optometrydd sydd wedi'i leoli yn Slough, oddi ar ei gofrestr.
Canfu Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer y GOC fod ei addasrwydd i ymarfer wedi'i amharu oherwydd euogfarn droseddol. Ym mis Mai 2024, cafwyd Mr Arshad yn euog o fod â nifer o ddelweddau anweddus llonydd a symudol o blant yn ei feddiant yn groes i adran 160 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 ac adran 1(1)(a) o Ddeddf Diogelu Plant 1978.
Mae gan Mr Arshad tan 19 Medi 2025 i apelio yn erbyn ei ddileu, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae o dan orchymyn atal dros dro ar unwaith.