Cymorth pellach i gleifion
Efallai y bydd y sefydliadau canlynol mewn sefyllfa well i'ch helpu gyda'ch pryder.
Gwasanaeth Cwynion Defnyddwyr Optegol (OCCS)
I gael cymorth gyda materion defnyddwyr, fel cael ad-daliad am sbectol ddiffygiol, cysylltwch â'r OCCS.
- Ewch i wefan Gwasanaeth Cwynion Defnyddwyr Optegol
- Ffôn: 0344 800 5071
- E-bost: [email protected] .
Awdurdod Safonau Hysbysebu
Gallwch gwyno am hysbysebu ffug neu gamarweiniol i'r Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA).
- Ewch i wefan yr Awdurdod Safonau Hysbysebu
- Ffôn: 020 7492 2222
Bopeth
Os nad ydych chi'n siŵr at bwy i gwyno, neu os oes angen cyngor cyfreithiol arnoch chi, cysylltwch â Chyngor ar Bopeth.
- Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth
- Ffôn: 020 7833 2181
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (IC0)
Os oes angen cyngor arnoch ar gael mynediad at eich cofnodion meddygol personol, cysylltwch â'r ICO.
- Ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
- Ffôn: 08456 30 60 60 neu 01625 54 57 45
Gweithredu yn erbyn Damweiniau Meddygol (AvMA)
Os ydych chi wedi cael eich niweidio o ganlyniad i driniaeth feddygol neu'n teimlo nad ydych chi wedi cael eich trin yn gywir, gall AvMA ddarparu cefnogaeth a chyngor ac o bosibl eich helpu i gael iawndal.
- Ewch i wefan Action Against Medical Accidents
- Ffôn: 0845 123 23 52
Cymorth i Ddioddefwyr
Os ydych chi wedi dioddef trosedd neu wedi cael eich effeithio gan drosedd a gyflawnwyd yn erbyn rhywun rydych chi'n ei adnabod, gall Cymorth i Ddioddefwyr ddarparu cymorth am ddim.
- Ewch i wefan Cymorth i Ddioddefwyr
- Ffôn: 0845 30 30 900
Cymru
Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru
Os ydych yn derbyn gwasanaethau'r GIG yng Nghymru, gall Bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned roi cymorth preifat am ddim i chi os oes gennych broblem neu gŵyn.
- Ewch i wefan Bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru
- Ffôn: 0845 644 7814
Yr Alban
Os ydych yn derbyn gwasanaethau'r GIG yn yr Alban, gall eich bwrdd iechyd lleol roi cymorth preifat am ddim i chi os oes gennych broblem neu gŵyn.
Gogledd Iwerddon
Cyngor Cleifion a Chleientiaid
Os ydych chi'n derbyn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon, gall y Cyngor Cleifion a Chleientiaid helpu os ydych chi am wneud cwyn.
- Ewch i wefan y Cyngor Paitent
- Ffôn: 0800 917 0222