Dyletswydd broffesiynol candour

Siarad â'r rhai sy'n agos at y claf

  1. Os nad oes gan y claf ymwybyddiaeth neu alluedd, rhaid i chi fod yn agored ac yn onest gyda'r rhai sy'n agos at y claf. Cymerwch amser i gyfleu’r wybodaeth mewn ffordd dosturiol, gan roi’r cyfle iddynt ofyn cwestiynau ar y pryd ac wedi hynny. Dylech gyfeirio at ein harweiniad caniatâd i gael rhagor o wybodaeth ynghylch pryd y mae'n briodol trafod gofal claf gyda'r rhai sy'n agos ato.
  2. Dylech sicrhau, cyn belled ag y bo modd, bod y rhai sy'n agos at y claf wedi cael cynnig cymorth priodol, a bod ganddynt bwynt cyswllt penodol rhag ofn bod ganddynt bryderon neu gwestiynau yn ddiweddarach.