Mae ein hadroddiad blynyddol ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) ar gyfer y flwyddyn sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2025 yn nodi ein cynnydd dros y deuddeg mis diwethaf i gryfhau tegwch, hygyrchedd a hyder y cyhoedd yn y ffordd rydym yn rheoleiddio'r sector optegol. Mae'n tynnu sylw at sut mae ein gwaith EDI yn cefnogi canlyniadau tecach, mynediad cynhwysol at ofal llygaid a rheoleiddio effeithiol, dibynadwy.