04 Mawrth 2020

Datganiad ar atgyfeiriadau ar gyfer llawdriniaeth cataract

Datganiad GOC ar atgyfeiriadau ar gyfer llawdriniaeth cataract

 

Mae’r Cyngor Optegol Cyffredinol yn cofrestru optometryddion, optegwyr dosbarthu a busnesau optegol yn y DU.

Mae'r GOC yn amlinellu'r safonau a ddisgwylir gan ei gofrestryddion yn y Safonau ar gyfer Optometryddion ac Optegwyr Cyflenwi a Safonau ar gyfer Busnesau Optegol .

Mae’r GOC yn cymryd o ddifrif unrhyw honiad o atgyfeiriad clinigol amhriodol neu lle mae cleifion yn meddwl eu bod wedi cael eu gorfodi i gael triniaeth neu driniaeth ddiangen nad ydynt ei heisiau.

Gall y safonau canlynol ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu fod yn berthnasol yn y math hwn o amgylchiadau:

Safon 1. Gwrando ar gleifion a sicrhau eu bod yn ganolog i'r penderfyniadau a wneir am eu gofal.

1.2 Gwrando ar gleifion ac ystyried eu safbwyntiau, eu dewisiadau a’u pryderon, gan ymateb yn onest ac yn briodol i’w cwestiynau.

1.3 Cynorthwyo cleifion i arfer eu hawliau a gwneud penderfyniadau gwybodus am eu gofal. Parchwch y dewisiadau a wnânt.

Safon 2. Cyfathrebu'n effeithiol gyda'ch claf

2.2 Dylai cleifion wybod ymlaen llaw beth i'w ddisgwyl o'r ymgynghoriad a chael y cyfle i ofyn cwestiynau neu newid eu meddwl cyn symud ymlaen.

Safon 7. Cynnal asesiadau, archwiliadau, triniaethau ac atgyfeiriadau priodol

7.6 Dylid darparu neu argymell archwiliadau, triniaethau, cyffuriau neu ddyfeisiau optegol dim ond os yw'r rhain wedi'u cyfiawnhau'n glinigol ac er lles gorau'r claf.

Safon 10. Gweithio ar y cyd â chydweithwyr er budd cleifion

10.2 Atgyfeirio claf dim ond pan fo cyfiawnhad clinigol dros hyn, wedi’i wneud er budd y claf ac nad yw’n peryglu gofal neu ddiogelwch claf. Wrth wneud neu dderbyn atgyfeiriad rhaid bod yn glir i'r ddau barti dan sylw pwy sy'n gyfrifol am ofal y claf.

Safon 16. Byddwch yn onest ac yn ddibynadwy

16.2 Osgoi neu reoli unrhyw wrthdaro buddiannau a allai effeithio ar eich barn broffesiynol. Os yw'n briodol, datgan buddiant, ymneilltuo o'r gwrthdaro a gwrthod rhoddion a lletygarwch.

16.3 Sicrhewch nad yw cymhellion, targedau a ffactorau tebyg yn effeithio ar eich barn broffesiynol. Peidiwch â chaniatáu i fuddiannau ac enillion personol neu fasnachol beryglu diogelwch cleifion.

Gall y safonau canlynol ar gyfer busnesau optegol fod yn berthnasol yn y math hwn o amgylchiad:

Safon 1.1 Gall cleifion ddisgwyl bod yn ddiogel yn eich gofal

1.1.10 Mae eich busnes yn sicrhau nad yw unrhyw dargedau gweithredol neu fasnachol yn cael effaith andwyol ar ofal cleifion.

Safon 2.1 Mae'r gwasanaethau a ddarperir gennych yn agored ac yn dryloyw

2.1.9 Mae eich busnes yn annog staff i ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau, lle maent yn codi, ac i dynnu eu hunain yn ôl o wrthdaro o'r fath. Mae'r datganiad gwrthdaro buddiannau rheoleiddiol ar y cyd yn nodi'r hyn a ddisgwylir.

Safon 3.1 Mae eich staff yn gallu arfer eu barn broffesiynol

3.1.3 Mae eich busnes yn sicrhau nad yw pwysau gweithredol a masnachol yn atal yn afresymol arfer barn broffesiynol.

Safon 3.4 Mae'r staff yn cydweithredu ag eraill, lle bo'n briodol

3.4.1 Mae eich busnes yn cefnogi ei staff i wneud atgyfeiriadau ac yn sicrhau eu bod ond yn gwneud atgyfeiriadau pan fo hynny'n briodol ac wedi'i gyfiawnhau'n glinigol.

Bydd y GOC yn ystyried unrhyw bryderon nad yw ein safonau wedi'u bodloni. Am fanylion llawn ein proses gwyno, cyfeiriwch at ein gwefan: Sut i wneud cwyn .

Ni all y GOC wneud sylw ar fanylion cwynion unigol.

 

Pynciau cysylltiedig