10 Mawrth 2025

GOC yn atal optegydd dosbarthu o Milton Keynes o'r gofrestr

Mae'r GOC wedi penderfynu gwahardd John Singh, optegydd dosbarthu yn Milton Keynes, o'i gofrestr am 12 mis.

Mae’r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheolydd optometryddion ac optegwyr dosbarthu’r DU, wedi penderfynu atal John Singh, optegydd dosbarthu yn Milton Keynes, o’i gofrestr am 12 mis.

Canfu un o Bwyllgorau Addasrwydd i Ymarfer y GOC fod ei addasrwydd i ymarfer wedi’i amharu oherwydd camymddwyn. Mae hyn mewn perthynas â gwneud nifer o drafodion twyllodrus rhwng Ionawr 2018 a Mawrth 2022. Yn fwriadol, rhoddodd Mr Singh sbectol o ansawdd rhatach a/neu israddol i’r hyn yr oeddent wedi talu amdano a/neu ni wnaeth ad-dalu’r gwahaniaeth yn y pris i gleifion. Canfu’r Pwyllgor fod y camau hyn yn anonest.   

Mae gan Mr Singh tan 2 Ebrill 2025 i apelio yn erbyn ei waharddiad.

 

Pynciau cysylltiedig