Canllawiau i helpu ein cofrestreion i ddeall y cysyniad o ganiatâd, a sut y dylid ei gymhwyso'n ymarferol. Mae'n ofyniad proffesiynol i gofrestreion sicrhau eu bod yn cael caniatâd dilys. Bydd y canllawiau hyn yn eich cefnogi i ddeall caniatâd, y gallu i gydsynio, a sut i reoli sefyllfaoedd lle gallai caniatâd gael ei wrthod neu ei dynnu'n ôl.
Canllawiau yw hyn i helpu ein cofrestreion i ystyried ac ymateb i anghenion cleifion mewn amgylchiadau agored i niwed. Bwriedir darllen yr adrannau gyda'i gilydd ac ni ellir eu darllen ar eu pen eu hunain.
Canllawiau yw hyn i helpu ein cofrestreion i ddeall pwysigrwydd cynnal ffiniau rhywiol priodol gyda chleifion a chydweithwyr. Bwriedir darllen yr adrannau gyda'i gilydd ac ni ellir eu darllen ar eu pen eu hunain.
Mae'r Cyngor Optegol Cyffredinol wedi lansio ymgynghoriad ar ddau ddarn o ganllawiau drafft: cynnal ffiniau rhywiol priodol a gofalu am gleifion mewn amgylchiadau agored i niwed.
Mae ein Safonau ar gyfer Busnesau Optegol yn diffinio’r safonau yr ydym yn eu disgwyl gan fusnesau optegol i ddiogelu’r cyhoedd a hybu safonau gofal uchel.