Ymgynghoriad wedi'i archifo 2025: canllawiau ar gynnal ffiniau rhywiol priodol a gofalu am gleifion mewn amgylchiadau agored i niwed
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn yn flaenorol ar ein hwb ymgynghori. Rydym wedi ei symud yma fel rhan o archifo.
Gofynasom
Fe wnaethom ddatblygu dau ddarn newydd o ganllawiau, 'Cynnal ffiniau rhywiol priodol' a 'Gofal cleifion mewn amgylchiadau agored i niwed' , i helpu cofrestreion i fodloni'r safonau newydd a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2025. Fe wnaethom gynnal ymgynghoriad i gael adborth gan randdeiliaid ynghylch a oedd y canllawiau'n hawdd eu darllen a'u deall ac a oeddent yn cefnogi cofrestreion yn effeithiol i ddehongli'r safonau wedi'u diweddaru.
Dywedoch chi
Roedd llawer o'r ymatebion yn croesawu cyflwyno un, neu'r ddau, ddarn o ganllawiau, fel atodiad defnyddiol i gefnogi cofrestreion i gydymffurfio â'r safonau newydd. Darparodd llawer adborth manwl hefyd, gan awgrymu newidiadau drafftio neu dynnu sylw at bwyntiau lle roeddent yn teimlo bod angen i ni ddarparu mwy o eglurder.
Mi wnaethom ni
Fe wnaethon ni fyfyrio ar yr holl adborth a gawsom a diwygio’r canllawiau o ganlyniad. Roedd yr adborth yn caniatáu inni wella eglurder y canllawiau a rhoi mwy o bwyslais ar feysydd penodol.
Mae newidiadau allweddol yn cynnwys egluro nad yw addasiadau i ddiwallu anghenion cleifion mewn amgylchiadau agored i niwed yn “addasiadau rhesymol” fel sy’n ofynnol gan y gyfraith a phwysleisio bod pob camymddwyn rhywiol yn ddifrifol.
Mae canllawiau ar Gynnal ffiniau rhywiol priodol a Gofalu am gleifion mewn amgylchiadau agored i niwed ar gael ar ein gwefan.
Ffeiliau
Ymatebion cyhoeddedig
Gweld ymatebion a gyflwynwyd lle rhoddwyd caniatâd i gyhoeddi'r ymateb. Gallwch hefyd weld ymatebion a gyflwynwyd yn y Gymraeg .