Polisi datgelu

Polisi datgelu

Rydym wedi ymrwymo i'r egwyddorion canlynol wrth wneud penderfyniad ar ba wybodaeth i'w chyhoeddi:

  • Bod yn agored ac yn dryloyw ynghylch y broses rydym yn ei mabwysiadu a'r penderfyniadau a wnawn wrth ddiogelu cyfrinachedd.
  • Sicrhau bod gwybodaeth fasnachol sensitif yn cael ei thrin yn gyfrinachol.
  • Sicrhau ein bod yn cydymffurfio â dyletswyddau cyfreithiol a osodir arnom o ran diogelu data a dyletswydd cyfrinachedd cyfraith gwlad
  • Bod unrhyw ddatgelu gwybodaeth yn gyfreithlon ac yn gymesur ym mhob un o'r amgylchiadau
  • Cwblhau prawf lles y cyhoedd pan fo hynny'n berthnasol.
  • Cyhoeddi gwybodaeth mewn fformat hawdd ei gyrraedd lle bo hynny'n bosibl.

Fframwaith Llywodraethu Gwybodaeth a Llawlyfr