Pryderon eraill y gallwn ymchwilio iddynt

Amlinelliad o'n gwaith ynghylch arfer anghyfreithlon a sut i godi cwyn amdano.

Cwynion am arferion anghyfreithlon am bobl nad ydynt yn gofrestreion

Gall arfer anghyfreithlon gynnwys camddefnyddio teitl gwarchodedig gan unigolyn nad yw wedi cofrestru (er enghraifft, unigolyn yn galw ei hun yn 'optometrydd' neu'n 'optegydd dosbarthu' pan nad ydynt ar ein cofrestr) neu ymgymryd â gweithgareddau optegol cyfyngedig (er enghraifft, cynnal prawf golwg pan nad ydynt yn optometrydd nac yn ymarferydd meddygol cofrestredig).

Er nad yw'n ddyletswydd statudol benodol, efallai y byddwn yn gweithredu ar adroddiadau am arfer optegol anghyfreithlon honedig pan fo angen i amddiffyn y cyhoedd.

Rydym wedi cynhyrchu protocol arfer anghyfreithlon i roi canllawiau ynghylch pryd y byddwn yn agor ymchwiliad i adroddiad am arfer anghyfreithlon honedig a phryd y byddwn yn ystyried dwyn erlyniad preifat. 

I wneud cwyn am arfer anghyfreithlon, gallwch: